Equinox Raspberry and Elderflower Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Equinox Raspberry and Elderflower Kombucha.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 45 (18 ymhob 100ml)

Mae’r kombucha yma gyda mafon a blodau’r ysgaw yn dod mewn can pinc tywyll a gwyn. Mae’r ddiod tu fewn yn rhyw liw oren-binc, a mymryn yn gymylog gan gelloedd y kombucha. Ar y trwyn, mae ganddo arogl mafon cryf. Roedden ni’n tybio byddai hi dipyn bach yn felys, ond mae hi wir yn siwgraidd iawn, gan lethu’r blas kombucha, ac roedd blas blodau’r ysgaw yn eithaf gwan hefyd.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​