Equinox Wild Berry Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Equinox Wild Berry Kombucha.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 38 (15 ymhob 100ml)

Wedi iddyn nhw fwynhau kombucha sinsir gan Equinox, roedd ein panel profi yn awyddus i roi cynnig ar un o’r blasau eraill. Daw hwn mewn can gwyn, ac mae’r ddiod tu fewn yn binc ei lliw ac yn eithaf byrlymus wrth ei thywallt. Mae arogl y ddiod yn unigryw: cymysgedd pwerus o ffrwythau’r haf a phinafal.

Mae’r blas fymryn yn sur, gyda melystra ysgafn yn y cefndir. Er bod ganddi arogl kombucha, dyw blas y finegr ddim yn ormodol. Mae hi’n gadael adflas eithaf cymhleth, a dyw hynny ddim yn syndod o gofio faint o gynhwysion amrywiol sydd ynddi: licris, egros, danadl, te gwyrdd, kombucha, a phinafal. Ym marn ein panel profi, roedd hi’n ddiod ddymunol a go wahanol i’r rhelyw.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​