Esmeralda

English | Cymraeg

Ein barn ar Esmeralda

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 106 (32 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae’r cwrw Mecsicanaidd yma wedi’i gyd-greu gan gwmni diodydd Fortitude yn Essex a Mockingbird Spirit ym Mryste. Mae cydweithio weithiau yn esgor ar ganlyniadau hyfryd o annisgwyl, a dyw’r cywaith yma ddim yn eithriad i’r rheol.

Cwrw gwych yr olwg yw e, gyda phatrymau geometrig o naws yr America Ladin, a dail agafe bach annwyl. Mae ganddo flas cwrw Mecsicanaidd ysgafn, ynghyd â llwyth o hopys chwerw, wedi’u cydbwyso gan felystra’r agafe. Diod ddiddorol ar y naw.

Mae hefyd yn addas i feganiaid ac yn ddi-glwten.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​