Feragaia

English | Cymraeg

Ein barn ar Feragaia

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 13
Sgôr: 3 o 5

Yn sicr, mae Feragaia yn un o’r diodydd mwyaf diddorol a lansiwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd ei chreu o “berlysiau tir a môr” ac mae’r broliant yn addo “teithiau newydd a phrofiadau gwerth eu cofio”. Mae hefyd yn un o’r diodydd harddaf welson ni erioed, gyda photel a phecyn sy’n gyforiog o ddelweddau garw o fynyddoedd, arfordiroedd ac wybren eang yr Alban.

Ond y cwestiwn pwysicaf, wrth gwrs, yw sut mae’n blasu? Ymhlith y cynhwysion mae dail cyrens duon, gwymon danheddog, a phupur. Mae’r blas, at ei gilydd, yn debyg i wisgi mawnaidd. Roedd ein panel profi yn rhanedig yn ei chylch. Diod ar ei phen ei hunan yw hon i gryn raddau ac ni fydd yn plesio pawb. Fel pob tro, bydd rhaid i chi farnu drosoch eich hun.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​