Fierce Beer Ghost AF

English | Cymraeg

Cwrw hawdd ei yfed o'r Alban

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: Wrthi’n aros gwybodaeth

Dyma adroddiad gwadd gan ein gohebwyr crwydrol Q a Blue, a fuodd yn nhafarn y bragdy yn Aberdeen

Sefydlwyd Bragdy Fierce Beer yn Aberdeen yn 2015 gan griw o bobl a fu wrthi’n frwd hyd hynny’n creu cwrw cartref. Agoron nhw eu tafarn gyntaf, hefyd yn y Ddinas Ithfaen, yn 2018. Mae ganddyn nhw gasgliad mawr o gyrfau ar gryfderau amrywiol. Felly, sut mae eu cwrw 0.5%?

Cwrw hawdd ei yfed yw e. Mae ganddo arogl da a golwg gymylog ddymunol. Mae ychydig o nodau barlys ac adflas da. Ond, at ei gilydd, roedd ein panel profi yn ei gael e braidd yn brin o flas. Mae e’n well na rhai o gyrfau di-alcohol y cwmnïau mawrion, ond mae gwell cyrfau crefftus prin-eu-halcohol i’w cael.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​