Forgot To Take My Pils

English | Cymraeg

Ein barn ar Forgot To Take My Pils.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau: wrthi’n aros gwybodaeth

Mae bragdy Low Tide yn adnabyddus am eu caniau trawiadol, a dyw hwn ddim yn eithriad, gyda llun o greaduriaid hanner-jiráff, hanner-melin-wynt ar beithiau Affrica. Keller Pilsner yn null yr Almaen yw’r cwrw tu fewn iddo. Yn hanesyddol, diod arbennig oedd cwrw o’r fath, gan gael ei gyrchu o seler (neu “keller”) y bragdy cyn iddo gael ei ffiltro. Yn ôl y disgwyl, cwrw cymylog yw hwn, felly. Nid dyma’r cwrw mwyaf cyffrous erioed, ond mae’n ddiod ddymunol, a delfrydol am dorri’ch syched ar ddiwrnod o haf.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​