Glen Dochus

English | Cymraeg

Ein barn ar Glen Dochus

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 16
Sgôr: 2 o 5

Tasem ni’n sgorio’r ddiod yma ar sail ei gwedd a’i phryd yn unig byddai’n cael marciau llawn. Mae iddi liw caramel hyfryd ac mae’n dod mewn potel sgwâr dwt gyda label las ac arian sy’n rhoi iddi olwg wisgi cymysg o safon. Byddai’n edrych yn dda mewn unrhyw gwpwrdd diodydd.

Mae’r arogl a’r blas yn rhyfeddol o feddwol ar y llymaid cyntaf, ond yn fuan wedyn daw blas mawn cryf iawn sy’n llethu pob dim arall ac sy’n aros yn hir. Trïon ni ei chymysgu hi gyda chola a gyda diod sinsir heb lawer o lwyddiant. Bydd rhaid i chi ei phrofi drosoch chi’ch hun, ond dim dyma ein hoff ddiod ni.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​