Good Karma Chakra Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Good Karma Chakra Pale Ale.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: Dim gwybodaeth

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears

Mae cwrw gwelw yn ddirgelwch i mi. Gallaf i werthfawrogi crefft creu un da, ond fuon nhw erioed at fy nant i. Gwell gen i wastad nodau brag gwrw coch neu ddu nag awch sitrws cwrw gwelw.

Ond mae Chakra yn gwrw meistrolgar o gytbwys. Mae’r holl donau ffrwythus miniog i’w cael ond heb fod yn llethol. Yn lle brathu eich tafod, maen nhw’n mynd â fe am dro hamddenol trwy goed pinwydd ar fore lled wyntog ar ôl ychydig o law.

Mae’n gwrw eithriadol o ffres. Cwrw sesiwn hawdd ei yfed. Ac fel pob un o gyrfau Good Karma mae’n diweddu’n dda hefyd, heb ddim o’r gwacter ar y diwedd sy’n difetha rhai cyrfau di-alcohol. Mae’r blas yn aros yn eich ceg yn rhwydd, a gyda theimlad mor berffaith na sylwech chi ar absenoldeb alcohol o gwbl.

Dyma gwrw gwych i gyd-fynd ag unrhyw bryd o fwyd, neu i’w fwynhau ar ei ben ei hun gyda’r nos.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​