Good Karma Tantra IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Good Karma Tantra IPA.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: Dim gwybodaeth

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears

Cwrw trofannol yw Tantra, yn sicr – nes bod bron yn sur. Y peth cyntaf sylwch arno yw ergyd nerthol y grawnffrwyth, ac ar ôl hwnnw ffrwydrad fel salad ffrwythau, cyn iddo ymdawelu drachefn gyda sychder y grawnffrwyth, gan adael teimlad cymhleth yn eich ceg.

Fel arfer, dyw cwrw o’r fath ddim at fy nant i. Ar y llaw arall, un peth sy’n codi fy ngwrychyn am gyrfau di-alcohol yw eu dinodedd – fel copi gwael o gwrw sydd hefyd yn gopi o gwrw arall, gwell. Ni allwch chi ddweud hynny am hwn. Does dim byd yn ei ddal e’n ôl. Mae’n torri ei gwŷs ei hun, ac yn ei dorri’n dda.

Nid yw cwrw awchus, ffrwythus fel hwn yn fy mhlesio fel arfer, ond rwyf wedi ei fwynhau’n arw. Os ydych chi’n hoffi cwrw sawrus, afreolus, dyma’r ddiod i chi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​