Gower Brews Zero

English | Cymraeg

Ein barn ar Gower Brews Zero.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob: 22

Sefydlwyd Bragdy Gŵyr fel meicro-fragdy yn 2011, ym Mhenclawdd ynghanol hyfrydwch Penrhyn Gŵyr. Ac maen nhw ar i fyny byth oddi ar hynny.

Mae’r cwrw prin-ei-alcohol yma wedi cyrraedd yn eithaf diweddar – cawson ni hyd iddo yn gynnar yn 2023. Mae iddo liw ambr da. Mae digon o hopys ond mae’r chwerwder yn cael ei gydbwyso gan adflas brag dymunol. Mae’r bragwyr yn ei ddisgrifio fel “y cyfeiliant perffaith i ddiwrnod braf o chwilota ym mro Gŵyr, ac un sy’n eich gadael yn alluog i yrru adref wedyn”. Gwir y gair!

Mae cynllun y botel yn wych hefyd – gyda llun hyfryd o’r haul yn codi (neu’n machlud, o bosib) dros greigiau Gŵyr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​