Cryfder: 0.5%
Great Northern
English | Cymraeg
Ein barn ar Great Northern, cwrw melyn di-alcohol gan Northern Monk.
Sgôr:
3/5
Ers prin ddeng mlynedd mae Northern Monk yn bragu, ond yn yr amser cymharol fyr yna, maen nhw wedi hen ennill eu plwyf â detholiad da o gyrfau o bob math. Yn braf iawn, mae eu casgliad bellach yn cynnwys opsiynau di-alcohol, gan gynnwys hwn – Great Northern, eu cwrw melyn di-alcohol.
Yn union fel y fersiwn alcoholaidd o’r un ddiod, mae hwn wedi’i grefftio gyda’r balchder sy’n nodweddu’r Hen Ogledd, ac mae ganddo flas awchus, glân. Er hynny, ac er gwaethaf diwyg gwych y can a lliw apelgar y ddiod, doedd y blas, er cystal, ddim yn rhagorol ym marn ein panel profi.
O ystyried y thema fynachaidd, roeddwn i am gloi ein hadolygiad â datganiad diamser a dwys fyddai’n aros yn hir gyda chi ar ôl i chi ei ddarllen, fel “o goeden grin y daw blodyn” neu “newid yn unig sydd ddigyfnewid”. Ond, gan na ddaeth dim o’r fath ddoethineb i’n meddyliau ni, bodlonwn ni ar ddweud bod hwn yn gwrw digon dymunol, ac os ydych chi wedi rhoi heibio’r ddiod gadarn am ba reswm bynnag, mae’n werth rhoi cynnig arnon!
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.