Greyson's Pink Berries

English | Cymraeg

Ein barn ar Greyson's Pink Berries.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 36

Gallwch chi wastad ddibynnu ar Aldi i gynnig rhywbeth tebyg yr olwg i frand adnabyddus ond is ei bris. Yn fan hyn, maen nhw i’w gweld yn efelychu Gordon’s Premium Pink, a’i efelychu’n eithaf da.

Mae Greyson's Pink Berries yn cynnwys cyrens duon, mafon a mefus. Mae ganddo liw pinc gwelw prydferth a blas ffrwythus hyfryd, ac mae’n flasus dros ben gyda thonic. Cymharwch e â’r brand mawr mae’n ei ddynwared a gweld beth feddyliwch chi!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​