Haelu Havana Heat

English | Cymraeg

Ein barn ar Haelu Havana Heat

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 75 (30 ymhob 100ml)

Mae Haelu yn addo diodydd fydd yn eich helpu i ymlacio yn ogystal â thorri eich syched. Mae pob un o’u diodydd wedi’i gwneud â HAELU HAPPI, eu cymysgedd unigryw o berlysiau, fitaminau a mwynau. Mae hwn yn cynnwys nifer o blanhigion sy’n cael eu nabod fel “adaptogens” sy’n cael eu defnyddio ym meddygaeth draddodiadol y Dwyrain Pell. Mae rhai wedi mynegi amheuon am rinweddau iachusol y cynhwysion hyn. Ond o ran blas y ddiod, does dim amheuaeth o gwbl – mae’n rhagorol. Roedd e’n atgoffa un o’n panel profi o wirod sinamon. Soniodd un arall am gwrw Nadoligaidd, ac yn arall am siwgr coch. Gyda’r holl flasau siwgraidd a sbeisiog mwyn, efallai mai “Caribïaidd” yw’r ansoddair gorau. Wrth weini’r ddiod gyda rhew, mae’r tyndra rhwng gwres ac oerfel yn gweithio’n berffaith.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​