Haelu Salerno Spritz

English | Cymraeg

Ein barn ar Haelu Salerno Spritz.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 78 (31 ymhob 100ml)

Daethon ni ar draws diodydd Haelu yn 2022. Yn gwmni o Gaint, maen nhw’n anelu at ddarparu diodydd blasus ac iachus ar gyfer oedolion. Mae pob un o ddiodydd Haelu yn cynnwys HAELU HAPPI, eu cymysgedd unigryw o berlysiau, fitaminau a mwynau. Ymhlith y rhain mae nifer o “adaptogens” – cynhwysion botanegol sy’n cael eu defnyddio ym meddygaeth draddodiadol dwyrain Asia.

O ran eu blas, mae diodydd Haelu yn gwbl unigryw – mewn ffordd dda! Gan mai dinas yn neheudir yr Eidal yw Salerno, roedden ni’n disgwyl rhyw fath o lemonêd, efallai. Ond diod gyda lliw oren-goch dwfn ac arogl hyfryd orenau a sbeis. Mae’r ddiod ar ei gorau wedi’i gweini gyda rhew, ond mae’r blas yn annisgwyl o gynhesol, gan greu tyndra dymunol iawn. Fel dwedon ni – diod unigryw.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​