Hampstead Aromatic Virgin

English | Cymraeg

Ein barn ar Hampstead Aromatic Virgin.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 9

Mae’r wirod ddi-alcohol yma ar werth yn Lidl o dan eu brand nhw ac mae’n rhatach o dipyn na sawl diod arall yn yr un categori. Daw mewn potel brydferth gyda phatrwm cynnil o ddail a changhennau. Mae gan y ddiod ei hun arogl perlysieuol dymunol. Mae’r blas yn wahanol i jin draddodiadol ond mae’n ysgafn, glân ac adfywiol. Fel bron i bob gwirod ddi-alcohol, dyw hi ddim ar gyfer ei hyfed ar ei phen ei hunan. Wedi’i chymysgu gyda thonic, mae hi’n gwneud diod hafaidd hyfryd – perffaith ar gyfer prynhawn poeth.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​