Hayman’s London 0%

English | Cymraeg

Dyma ddiod delfrydol pan fyddwch chi eisiau GnT ond ddim eisiau’r alcohol.

Sgôr:

4/5

ABV: 0.0%

Calories per 100ml: 21

Dechreuodd hanes y cwmni yma yn 1863, pan aeth James Burrough, fferyllydd o Lundeiniwr, ati i agor distyllfa fach, ac mae ei ddisgynyddion wrthi o hyd. Mae’n amwlg eu bod nhw’n hoff o arloesi, gan iddyn nhw ddod â jin 12.5% i’r farchnad o’r blaen, ac yn 2025 lansion nhw eu diod 0.0% gyntaf.

Mae ganddi flasau meryw, coriander a sitrws da, a blasau naturiol ydyn nhw, heb ddim byd artiffisial ar eu cyfyl. Fel y rhan fwyaf o wirodydd di-alcohol, dydych chi ddim i fod i’w hyfed ar ei phen ei hun. Mae Hayman’s yn awgrymu ei chymysgu gyda thonic a sleisen o rawnffrwyth. Rhoddon ni gynnig arni hi gyda thonic a leim. Y naill ffordd neu’r llall, dyma ddiod delfrydol pan fyddwch chi eisiau GnT ond ddim eisiau’r alcohol.

Mae diwyg y ddiod yn rhagorol hefyd, mewn potel sgwâr gydag ysgrifen hynafol sy’n dwyn i gof hen hanes Llundain.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​