Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
Efallai nad yw Warwickshire ar bob rhestr o siroedd seidr, ond efallai dylai hi fod. Mae’r teulu Hogan yn gwneud seidr yno ers 2005, ac yn ei wneud e’n arbennig o dda!
Lansiwyd High Sobreity yn 2019 gyda chryfder o 1%. Erbyn hyn, mae wedi ymddangos ar ei newydd, a'r alcohol wedi’i haneru i 0.5%, sy’n sicr o ehangu ei apêl i’r rhai sy’n trio diota llai.
Yn ddi-os, byddwn i’n rhoi hwn yng nghategori “seidr traddodiadol”. O’r cychwyn cyntaf, mae arogl afalau seidr arno, ac mae’r blas yn sych a miniog. At hynny, mae joch o finegr afalau ynddo fe, sy’n ei wneud yn fwy miniog fyth ac yn gwneud yr adflas bron yn sur. Roedd yr adflas yna fymryn bach yn ormod i ni, ond os seidr sych iawn sydd at eich dant, mae’n bosibl byddwch chi wrth eich bodd. Sut bynnag, seidr da yw hwn – yn llawn dop o afalau ac yn berffaith at ddiwrnod o hindda!
Gallwch chi brynu High Sobriety Original ar-lein yn syth o’r berllan, naill mewn poteli traddodiadol hardd neu mewn caniau cyfleus.