Highball Classic G&T

English | Cymraeg

Ein barn ar Highball Classic G&T

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 55 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae poblogrwydd jin ar i fyny ers tua 2010, a does dim affliw o arwydd ei fod ar fin mynd i lawr. Does rhyfedd, felly, fod cryn nifer o gwmnïau diodydd wedi bod wrthi’n ceisio creu jin, neu jin-a-thonic parod, heb yr alcohol.

Felly, sut siâp sut ar hwn o’r Fforest Newydd? Mae yma gymysgedd mwy cymhleth o berlysiau nag sydd mewn jin Llundeinig traddodiadol. Mae felly’n debygol o apelio i jingarwyr mwy modern eu hanian sydd wedi arfer â’r amrywiaeth anferth o flasau sydd i jin y dyddiau hyn. Roedd ein panel profi yn meddwl bod angen llai o gwinîn a mwy o feryw ynddo. Ond, fel pob tro, pawb at y peth y bo.

Cewch chi wybod mwy am holl ddiodydd Highball yma.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​