Hobson’s Free IPA

English | Cymraeg

Ein Bar Ar Hobson’s Free IPA.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob: wrthi’n aros gwybodaeth

Mae ein panel profi wedi rhoi cynnig ar gannoedd o ddiodydd ar gyfer y tudalennau hyn. Bob hyn a hyn, maen nhw’n canfod perl o ddiod ymhlith y lliaws. A dyma un o’r rheini.

Cwrw gwelw gwirioneddol dda yw Hobson’s Free IPA. Mae iddo liw gwelw a chymylog. Mae’n llawn hopys braf ond heb fod yn rhy flodeuog, ac mae’r chwerwder yn cael ei gydbwyso gan fymryn o felystra.

Bragdy o sir Amwythig yw Hobson’s, ond cywaith rhyngwladol yw’r cwrw yma, wedi’i fragu yng nghanolbarth Pwyl trwy bartneriaeth gyda Browar Błonie.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​