Holy Faith

English | Cymraeg

Ein barn ar Holy Faith

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob can: wrthi’n aros gwybodaeth

Bragdy cymharol newydd yw Northern Monk, wedi’i sefydlu yn 2014 ac yn tynnu ysbrydoliaeth o hanes mynachlogydd mawr sir Efrog. Mae ambell un o’u cyrfau cyn gryfed â 12%. Ond maen nhw hefyd wedi creu nifer o ddiodydd 0.5%, gan gynnwys hon.

Fel pob un o’u diodydd, daw Holy Faith mewn can cofiadwy, gyda llun lled frawychus o fynach yn ei gwfl, yn yr achos yma yn erbyn cefndir o dirwedd fryniog gogledd Lloegr. Mae’r cwrw ei hunan yn gymylog iawn, bron fel cwrw sinsir hen-ffasiwn o ran ei liw. Mae digon o fwrlwm ynddo, ac ewyn sy’n para’n dda. Mae iddo arogl dymunol, a blas chwerw sy’n para’n hir ond heb fod yn llethol. At ei gilydd, cwrw gwelw dymunol iawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​