Hop Bucha

English | Cymraeg

Kombucha bywiog a miniog gyda hopys a sitrws

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 13

Plentyn siawns annisgwyl yw Hop Bucha. Equinox, gwneuthurwyr kombucha, a T&R Theakston, bragwyr cwrw sir Efrog ers 1827, yw ei rieni.

A dyma ddiod sitrws gofiadwy maen nhw wedi’i chreu! Yn felyn gwelw, yn fywiog iawn, ac yn gyforiog o o lemwn a grawnffrwyth, mae’r sitrws yn amlwg o’r llymaid cyntaf. Wedyn mae’r hopys Jester, Cascade a Summit yn ychwanegu chwerwder ysgafn, gan gydbwyso'r melystra a gan roi naws diod i oedolion iddi yn hytrach na phop siwgraidd.

Yn sicr, y sitrws yw seren y sioe. Mae lemwn yn dod â’r asbri, a’r grawnffrwyth yn dod â’r min, tra bod y hopys yn ychwanegu digon o chwerwder i gadw pethau’n ddiddorol. Roedd ein panel profi yn ei hoffi’n fawr, a’r cyfuniad o fwrlwm, ffrwythau a hopys yn gwneud diod adfywiol a llawn cymeriad.

Mae’n dweud ar y can bod y ddiod yn “100% naturiol ac yn llesol i’r perfeddion”. Mae hi hefyd yn addas i feganiaid a heb ddim glwten.

Er hynny, mae un cwmwl ar y gorwel, sef bod pob can 330ml yn cynnwys mwy na 10g o siwgr, sy’n tua chymaint a hanner toesen gydag eisin. Felly, er ein bod ni'n ei fwynhau, roedd un can yn ddigon i ni.

Ond, os ydych chi’n hoffi diodydd di-alcohol gyda digon o fywyd ynddyn nhw, fydd Hop Bucha ddim yn eich siomi. Mae’n ffrwythus, byrlymus, llawn hopys ac, yn anad dim, sitrws. Felly, pan fydd bywyd yn rhoi lemonau i chi, mae’n debyg mai’r ateb yw ychwanegu grawnffrwyth a hopys!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​