Impossibrew Enhanced Hazy Pale

English | Cymraeg

Ein barn ar Impossibrew Enhanced Hazy Pale

Sgôr:

4/5

ABV: 0.5%

Calorïau ymhob can: 62 (14 ymhob 100ml)

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Henry Forrest o flog yr Alcohol-Free Explorers. Cewch chi Henry ar Twitter @HoppyAF

Sefydlodd Mark Wong Impossibrew pan gafodd wybod na allai yfed alcohol mwyach oherwydd ei iechyd. Un oedd yn dwli ar gwrw oedd e, ac roedd e ymroi i astudio gwin a chwrw yn broffesiynol pan oedd yn ifancach. Roedd Mark am ddod o hyd i ddiod oedd yn fwy na “di-alcohol”. Cafodd e hyd i lawysgrifau Japaneaidd o’r drydedd ganrif ar ddeg yn disgrifio pa berlysiau sy’n llesol i’r corff a’r meddwl. Ac felly, mae’r cwrw gwelw cymylog yma wedi’i atgyfnerthu gan gymysgedd botanegol arbennig Impossibrew: y Social Blend. “Creu ffordd unigryw i’ch meddwl ymlacio” yw’r nod.

Wrth ei thywallt, mae’n ddiod wych yr olwg gyda lliw ŷd euraidd braf a golwg drwchus a chymylog. Mae’r arogl yn llawn blasau sitrws sy’n parhau hyd y diwedd. Mae’r cwrw gwelw yma yn llawn dop o hopys, gan eich taflu chi o ffrwythau trofannol fel pinafal a mango tuag at eirin gwlanog a lemwn tua’r diwedd. Mae mwy o drwch iddo nag sydd gan y rhan fwyaf o gyrfau di-alcohol ac mae’n teimlo’n well yn y geg.

Yn blwmp ac yn blaen, mae Impossible wedi creu cwrw gwelw cymylog blasus iawn. Dwi’n siŵr bod llawer eisoes wedi mwynhau ei yfed, a bydd llawer mwy yn ei fwynhau dro ar ôl tro.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​