Inch's 0.0 cider

English | Cymraeg

Modfedd yn rhy felys? Ein barn ar seidr di-alcohol Inch’s.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.05%

Calorïau ymhob 100ml: 25

Mae Inch's yn bennaf adnabyddus am eu seidr afalau canolig ei flas. Maen nhw’n cadw at eu hegwyddorion ar gyfer y seidr di-alcohol yma, gan ddefnyddio afalau ffermydd o fewn cylch deugain milltir i’w melin seidr yn sir Henffordd.

Mae’r ddiod yn creu argraff gyntaf dda gyda chaniau lliwgar sy’n denu’r llygad. Mae lluniau gwladaidd y label yn codi’r awydd am fynd am dro hamddenol trwy berllan – yr haul ar eich wyneb, aroglau afalau’n aeddfedu, a phicnic ar y gwair, efallai!

Yn anffodus, dyw’r ddiod ei hun ddim cystal â’r can. Er ei bod yn tywallt yn braf iawn, gyda lliw euraidd a digon o fwrlwm, mae’r blas yn arbennig o felys – mwy tebyg i sudd afalau na seidr. Does dim brathiad na chymhlethdod sych, ac mae’r cynffon y blas yn ymylu ar surop.

Dyw hi ddim yn ddiod annymunol, ond mae’n brin o’r cydbwysedd a dyfnder sy’n nodweddu seidr traddodiadol. Efallai bydd hi’n plesio’r rhai sy’n chwilio am ddiod ysgafn ffrwythus, ond mae’n bosibl na fydd hi at ddant caredigion seidr.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​