Infinite Best

English | Cymraeg

Ein barn ar Infinite Best

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5 %
Calorïau ymhob can: 33 (11 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Tim Jenkins o flog yr Alcohol-Free Explorers. Cewch chi Tim ar Twitter @afbeerexplorer

Dyma’r pedwerydd cwrw gan Infinite Session, bragdy di-alcohol arbenigol a sefydlwyd yn Llundain yn 2017 gan ddau frawd. Cwrw chwerw di-alcohol yw hwn. Cwrw yw e roeddwn i’n edrych ymlaen yn arw iawn at ei flasu. Dwi’n hoff iawn o gyrfau traddodiadol a chwerw, ac roeddwn i’n gobeithio byddai hwn yn dod yn agos at flas rhai o fy hen ffefrynnau.

Mae’r ddiod yn tywallt gyda lliw brown cymylog braidd. Mae trwch o ewyn ond mae hwnnw’n diflannu’n gyflym. Mae arogl melys iawn, bron fel caramel llosg. Yn y blas mae llawer o fragau melys, a charamel eto. Mae e braidd yn fyrlymog – mwy na’r disgwyl. Ym fy marn i dyw’r blas ddim yn cyrraedd y nod yn llwyr – mae mymryn yn rhy felys am gwrw chwerw traddodiadol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​