ISH G&T

English | Cymraeg

Ein barn ar ISH G&T

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.4%

Calorïau ymhob can: 53 (21 ymhob per 100ml)

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd @GlowSober

O’u pencadlys ym mhrifddinas Denmarc, Copenhagen, mae ISH Spirits yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd di-alcohol, gan brysur ennill troedle yn y farchnad.

Mae gan y G&T yma arogl dymunol ac addfwyn. Mae’r blasau hefyd yn ysgafn, gyda meryw ar y blaen, wrth gwrs. Mae’r awgrym lleiaf o rywbeth sbeislyd, ac mae angen hwnna i gydbwyso’r tonic.

Diod braf yw hon, ond, fel sy’n digwydd yn aml gyda diodydd sydd wedi’u cymysgu’n barod, mae gormod o donic. Mae chwerwder y cwinîn yn trechu rhai o’r blasau eraill, ac roedd rhaid i mi ymdrechu i ganfod rhai o’r cynhwysion mwy cynnil. Gorau i gyd i mi pe bai mymryn llai o donic er mwyn i’r perlysiau ddod drwodd. Er hynny, mae nifer o flasau cytbwys yma, a byddaf i, yn sicr, yn cael ail un!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​