Jörg Geiger Rotfruchtig

English | Cymraeg

Ein barn ar Jörg Geiger Rotfruchtig.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 50

Diod ddwfn, fyrlymus, Nadoligaidd oedd wrth ein bodd.

Coch a ffrwythus” yw ystyr “rotfruchtig” yn Almaeneg, a dyma un o’r diodydd mwyaf ffrwythus gawson ni ers tro. Does dim rhyfedd am hynny gan ei bod wedi’i chreu â sudd afalau, gellyg, ceirios sur, cyrens duon, a chwins.

Roedd ein panel profi yn gorfoleddu gyda’i gilydd wrth flasu hon. Roedd pawb yn cytuno bod arogl y Nadolig arni, gyda nodau hyfryd o sinamon, cardamom ac eirin; ac roedd y blas llawn cystal, Fel dwedodd un person, cyn mynd â’r gweddillion adref, “Baswn i’n yfed llond casgen o hon”.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​