Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 27
English | Cymraeg
Ein barn ar Jörg Geiger Teassecco.
Sgôr:
3/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 27
Diod flasus o afalau a gellyg gydag awgrym o de myglyd.
Daw llawer o gynhwysion ryseitiau Manufaktur Jörg Geiger o’u perllannau yn ardal Swabia yng ngodre’r Almaen, lle mae’r cwmni’n creu amrywiaeth o ddiodydd di-alcohol i’w hyfed yn lle gwin.
Mae’r ddiod sych yma wedi’i phecynnu’n dwt gyda chorcyn go-iawn a golygfa bert o berllan ar y label. Roedd ein panel profi yn mwynhau ond yn gobeithio, o bosib, am ychydig rhagor o’r blas Darjeeling sy’n cael ei addo ar y label. Os blasau ysgafn a chynnil yw eich peth chi, efallai bydd hi at eich dant.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.