Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 18
Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears
I’r rhai sy’n anghyfarwydd â hi, diod rym sur yw daquiri. Ar ei ffurf alcoholaidd symlaf, mae llymder y joch o rym yn cael ei gydbwyso â surni’r leim a melystra’r siwgr. Mae pob un o’r blasau yna yn gryf a hyf ac yn cyd-fynd yn dda. Yn y dyddiau pan oeddwn i’n yfed, surion fel hon oedd rhai o fy hoff goctels.
Mae daquiris ffrwythus yn gweithio trwy ychwanegu ffrwyth at y siwgr: mefus, mango, litshi neu ba ffrwyth bynnag arall. Maen nhw’n gweithio oherwydd cydbwysedd. A chydbwysedd yw’r peth sy’n absennol o’r ddiod yma. Does dim gwirod, wrth gwrs, ond does dim blas gwirod chwaith. Mae surni’r sitrws yn rhy wan hefyd. Diod sudd sydd yma yn y bôn. O ran diodydd sudd, mae’n hynod flasus. Os ydych chi eisiau daquiri, byddwch chi wedi’ch siomi. Os yw diodydd ffrwythus at eich dant, byddwch chi wrth eich bodd.