Kopparberg Gin and Lemonade

English | Cymraeg

Ein barn ar Kopparberg Gin and Lemonade

Sgôr:

1/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 83 (33 ymhob 100ml)
Sgôr: 1 o 5

Mae Kopparberg yn enwog am greu seidrau Swedaidd siwgraidd, ac mae eu diodydd ffrwythus bellach yn ffefrynnau mawr yr ochr yma i Fôr y Gogledd. Yn 2019 dechreuon nhw gynhyrchu gwirodydd a choctels parod, sydd hefyd i’w gweld yn boblogaidd iawn yn y wlad yma.

Gwelon ni’r ddiod ddi-alcohol yma – gyda blasau jin, lemonêd mefus a leim – yn y siopau tua chanol 2021, ac roedd hi i’w gweld yn ddewis perffaith at yr haf. Mae’r diwyg yn ddeniadol iawn, gyda lliwiau du ac aur nodweddiadol Kopparberg, ynghyd â golygfa annwyl o bobl yn tostio malws melys wrth goelcerth o dân mewn tirwedd Swedaidd iawn yr olwg. Yn anffodus, doedd y ddiod tu fewn i’r can ddim yn apelio hanner cymaint i’n panel profi.

Y peth cyntaf i’w ddweud amdani yw ei bod hi’n eithriadol o felys. Yr ail beth yw na chawson ni affliw o flas jin ynddi hi. Yn y bôn, pop mefus melys digon dymunol yw hwn – fel yfed yr awyr mewn siop losin hen-ffasiwn. Mae’n ddiod dderbyniol, ond yn debygol o siomi’r rhai sy’n chwilio am rywbeth llai alcoholaidd i’w yfed yn lle eu coctel jin arferol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​