Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 15
English | Cymraeg
Ein barn ar Kronenbourg 1664.
Sgôr:
3/5
Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 15
Fel mae ei enw yn awgrymu, bragwyd cwrw Kronenbourg 1664 yn Strasbourg yn gyntaf oll yn yr ail ganrif ar bymtheg, er bod yn bragdy modern ychydig yn fwy newydd, wedi’i sefydlu yn 1952. Dyma un o gyrfau mwyaf poblogaidd Ffrainc, ac mae ei fragwyr yn brolio mai dyma “la première bière Française”.
Cafodd y fersiwn di-alcohol yma ei lansio ym Mhrydain yn 2025, ac yn ôl ei wneuthurwyr, bydd e’n “codi pob achlysur heb gyfaddawd…gan ei wneud yn gydymaith perffaith i fwyd”. Ai gwir yw’r broliant, felly?
Yn sicr, cwrw bywiog iawn yw e, gyda digon o ewyn sy’n para’n dda. Wedi iddo lonyddu mae ganddo liw euraidd clir. O ran y blas, mae ynddo fwy o hopys chwerw nag y cewch chi fel arfer mewn cwrw melyn, er nad yw mor awchus â chwrw gwelw.
Mae llond trol o gyrfau melyn di-alcohol ar gael ar hyn o bryd, a does dim byd eithriadol am hwn, ond mae’n ysgafn ac adfywiol, yn enwedig wedi’i oeri’n dda.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.