Lust for Life

English | Cymraeg

Ein barn ar Lust for Life

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%>

Calorïau ymhob can: 109 (33 ymhob 100ml)

Crëwyd y cwrw yma gan Brulo, bragdy a sefydlwyd yng Nghaeredin yn 2019. Fel mae’r enw yn awgrymu, bragu cwrw di-alcohol yw eu peth mawr nhw – yn benodol, cyrfau crefftus modern, llawn hopys. Maen nhw wedi addo arbrofi a gwthio ffiniau, a hyd yn hyn mae hynny wedi esgor ar bron i ddwsin o gyrfau gwahanol – o gwrw gwelw i gwrw du.

Mae’r cwrw gwelw yma wedi’i greu gyda dogn dwbl o hopys, a daw mewn can glas trawiadol gyda llygad bach yn y canol yn rhythu ar yr yfwr. Mae’r cwrw tu fewn yn hyfryd iawn. Mae e’n weddol cymylog, gyda digon o ewyn wrth ei dywallt. Mae ganddo flas annisgwyl o felys gydag awgrym satswma ond heb fod yn rhy felys o gwbl. Cwrw o safon, yn sicr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​