Lyre’s American Malt

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre's American Malt

Sgôr:

5/5

Gwirod Swyddogol Ionawr Sych 2022

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 11
Sgôr: 5/5

Dyma ddiod sy’n gwynto ac yn blasu yn yn union fel wisgi Americanaidd, ond na fydd yn llosgi’ch llwnc! Gallwch chi ei mwynhau ar ei phen ei hunan, gydag ychydig o rew, neu wedi’i chymysgu mewn coctel.

Rhoddon ni gynnig ar wneud Old Fashioned gyda surop siwgr, chwerwon aromatig, a mymryn groen oren i’w gorffen. Fydd y coctel yma ddim yn addas i’r sawl sydd am aros yn gwbl ddi-alcohol, am fod alcohol yn y chwerwon, ond mae digon o ryseitiau eraill ar wefan Lyre’s.

Bachwch eich Lyre’s yma. Defnyddiwch y côd DRYJAN20 i gael 20% oddi ar bris pob potelaid 70cl o wirodydd

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​