Lyre’s Aperitif Rosso

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre’s Aperitif Rosso.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 59

Os ydych chi’n hoffi blasau chwerw, mae fermwth sych da gyda rhew wastad yn brofiad da. Mae’r Aperitif Rosso yma fymryn yn fwy melys, ac nid cyn i chi ychwanegu tonic y daw ei chwerwder drwodd.

Cymysgwch hi gyda’r Italian Orange gan yr un cwmni, ynghyd â dŵr tonic a rhew, er mwyn creu coctel Americano. Mae’r blasau’n wefreiddiol. Mae’n gyfuniad benigamp!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​