Lyre’s Dark Cane Spirit

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre’s Dark Cane Spirit.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 20

Mae’r wirod dywyll yma wedi’i phecynnu’n ddeniadol mewn potel olygus gyda pharot pert ar y label. Mae’r broliant yn addo “ffrwythau, triagl, orenau, nytmeg a charamel hallt” ac er nad oes cyfarwyddiadau ynghylch ei chymysgu, bydden ni’n dychmygu ei bod yn cyd-fynd yn dda gyda chola neu ddiod sinsir.

Mae’r triagl yn dod drwodd yn syth bin – mae arogl y ddiod yn felys iawn a’r lliw yn frown bras wrth ei thywallt. O’r gegaid gyntaf mae’r oren a’r nytmeg yn amlwg, gan ogleisio’r tafod rywfaint. Mae melystra’r fanila yn bleserus iawn a’r adflas yn gynhesol.

Byddai’r ddiod yma’n gwneud y tro’n burion mewn drycin neu hindda, fel llymaid adfywiol yng ngwres yr haf neu fel rhywbeth i gynhesu’ch tu fewn yn y gaeaf!

At ei gilydd, mae Lyre’s wedi creu clasur di-alcohol arall i chi ei mwynhau ar ei phen ei hun neu wedi’i chymysgu. Go dda!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​