Lyre’s Dry London Spirit

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre's Dry London Spirit.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 10

Mae’r wirod sych Lundeinig yma gan Lyre’s i fod i gymryd lle eich hoff jin, a fydd hi ddim yn eich siomi. Gyda holl flasau meryw jin sych dda – ynghyd â thipyn oren a leim – mae hi’n rhagorol!

Trïwch hi gyda rhew a dŵr tonic. Neu beth am ei chymysgu gyda gwirodydd eraill Lyre’s er mwyn creu amrywiaeth o goctels? Bydd hi’n hawdd anghofio nad oes dim alcohol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​