Lyre’s Orange Sec

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre’s Orange Sec.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 61

Roedd ein panel profi yn gwerthfawrogi potel brydferth y wirod ddi-alcohol yma, sy’n dangos boneddiges o gath mewn het bluog ar y label oren lachar.

Diod glir ei lliw yw hon, gyda’r mymryn lleiaf o liw oren. Mae’r broliant yn addo blas orenau ynghyd â sbeisiau a rhiniau eraill. Diddorol iawn!

Yn y gwydryn, mae ganddi arogl ffres, ysgafn a bywiog. Roedd ein panel profi yn synnu at ddyfnder y blas, o ystyried mor fwyn mae’n gwynto. Mae’n cynnig blas cysurlon, esmwyth a melys a fyddai’n cymysgu’n dda gyda nifer o ddiodydd eraill, er gall sefyll hefyd ar ei phen ei hun, efallai gyda tipyn o rew.

Mae Orange Sec wedi mynd yn syth i frig rhestr ein panel profi o’u ffefrynnau, gyda sgôr o 5 allan o 5.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​