M&S Grapefruit & Chilli Collins

English | Cymraeg

Ein barn ar M&S Grapefruit & Chilli Collins

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 16

Diodydd sur gyda jin, sudd lemwn a dŵr pefriog yw coctels Collins fel arfer. Tom Collins yw’r mwyaf adnabyddus ohonyn nhw, ond mae yna rai eraill – gan gynnwys y ddiod ddiddorol yma gyda grawnffrwyth a tsilis.

Mae ganddo liw euraidd gwelw iawn a sawr grawnffrwyth braf. Mae ychydig o berlysiau chwerw diddorol a mymryn bach o tsili. Ddim yn wael o gwbl.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​