M&S Tropical Sour Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar M&S Tropical Sour Kombucha.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 61

Mae’r ddiod yma yn un o nifer sy’n eistedd ar y ffin rhwng kombucha a chwrw. Mae’n dod mewn potel frown fel cwrw ac mae’r label yn dweud ei fod wedi’i “fragu’n grefftus â hopys Prydain”.

Ffrwythus yw’r arogl gyntaf – mango a phinafal – gyda nodau finegraidd kombucha yn dynn ar ei sodlau. Mae’r lliw yn debyg i gwrw gwelw da. Cymysgedd diddorol yw’r blas o surni, melystra a burum. Yn sicr, mae’n werth rhoi cynnig arno os ydych chi’n hoff o gwrw neu kombucha ac yn barod i estyn y ffiniau rhyngddyn nhw.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​