Madrí Excepcional Zero

English | Cymraeg

Ein barn ar Madrí Excepcional Zero.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 20

Bydd rhai bragdai yn ymffrostio yn eu hanes a’u treftadaeth. Wedi’i sefydlu yn 2011, mae Cerveza La Sagra ym Madrid – creawdwyr Madrí Excepcional – yn ymfalchïo yn eu hieuenctid a’u modernedd. Daeth eu cwrw 4.6% yn bur boblogaidd yn y wlad yma yn y blynyddoedd diwethaf, a pheth braf yw gweld ei frawd bach 0.0% yn ymuno â fe ar y silffoedd.

Heb falu awyr na hel dail, dyma un o’r cyrfau melyn di-alcohol gorau gawson ni erioed. Mae ganddo liw euraidd hyfryd ac mae digon o fywyd ynddo. Mae’n llawn blas brag ond heb fod yn rhy felys. Ac mae’n drwchus, sy’n beth prin ar y naw mewn cwrw dirwestol. Oerwch e fymryn cyn ei yfed, ond nid gormod, a mwynhewch!

O ran yr enw, tipyn o frogarwch gan y bragwyr yw e: ffordd draddodiadol i ddweud enw prifddinas Sbaen yw Madrí.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​