Moodybrew Smoke

English | Cymraeg

Ein barn ar Moodybrew Smoke

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 4

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears

Dwi wrth fy modd efo blasau myglyd, rhaid dweud – pob dim o farbeciw i Lapsang Souchong. Blas yr ail un o’r rheini sydd i’w gael fan hyn, ac fel snob te o fri, roeddwn i’n methu aros i roi cynnig ar hwn.

Yn rhy aml, mae te rhewoer yn orlawn blasau cryf, gorfelys, heb fymryn o gynildeb: siwgr a dŵr a fu unwaith ar gyfyl cwdyn te. Nid felly y ddiod hon!

Mae blas y te yn dod drwodd, gyda chymhlethdod y mwg a melystra’r stefia. Ac mae’r swigod mân yn ychwanegu rhywbeth, gan gadw’r ddiod rhag teimlo fel cwpanaid o de a fu’n oeri ar gownter y gegin ers tro. Mae’r botel wydr yn awgrymu mai math newydd o ddiod yw hon: yn ddewis amgen yn lle alcohol a diodydd ysgafn fel ei gilydd.

Yn fy marn i, byddai blasau’r mwg a’r te yn elwa o fod yn gryfach, a’r stefia o fod yn wannach. Ond un ydw i sydd wastad yn yfed ei de heb laeth na siwgr. Er gwaetha’r mân gŵyn yna, diod dda yw hon. Gallaf ragweld ei yfed er mwyn ymlacio ar ôl diwrnod anodd.

Dyma de, felly, i’r rhai sydd am brofi rhywbeth sy’n gyfarwydd ond sydd hefyd yn eistedd yn gyffyrddus rhwng melys a sawrus – i’r rhai anturus sydd hefyd yn hoffi mymryn o gysur.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​