Morrisons Passion Fruit Martini and Lime Mojito mocktails

English | Cymraeg

Ein barn ar Morrisons Passion Fruit Martini and Lime Mojito mocktails

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 66 yn y Martini, 17 yn y Mojito
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd@GlowSober

Moctels cyn cinio heb wagio’r coffrau! Am noson braf – ac ar noson ganol wythnos hefyd! Mae’r pâr prydferth yma yn hanu o Morrison’s, am y pris resymol iawn o £2 am y ddwy ddiod.

Passion Fruit Martini yw un ohonyn nhw – Porn Star Martini yw’r hen enw – ac mae’n ddiod hyfryd iawn. Heb fod mor drwchus â’r coctel alcoholaidd cyfatebol, ond roeddwn i wedi’i glastwreiddio fymryn trwy ei llwytho ag iâ a mafon rhew. Dyw’r lliw ddim mor dywyll chwaith, ond mae’n agos. Roedd y Lime Mojito yn blasu yn union fel Mojito i mi – hwnnw oedd fy newis goctel ar un adeg. Gyda mymryn o fintys a digon o rew, roedd hi’n flasus iawn.

Mae diota di-alcohol yn teimlo fel profiad drud weithiau, ond roedd y noson fach yma yn yr ardd gefn cyn rated â thatws ac yn ddiweddglo hyfryd i ddiwrnod heulog. Mae’r blodau yn y llun yn rhai Masnach Deg o Lidl am £4. Felly, £6 oedd cyfanswm cost fy sesiwn iechyd a lles bersonol – llai na phris Sauvignon Blanc da, a llawer neisiach! Doedd Reggie’r ci ddim mor fodlon â fi ond mae wrth ei fodd fod yn y ffrâm ar gyfer ffotograff.

Mae gwell moctels i’w gael – ond nid am y fath bris isel!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​