Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 20
English | Cymraeg
At ei gilydd, dyma ddiod adfywiol ond cynnil.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 20
Mae’r enw Nekta yn dod yn rhannol o’r gair Pwnjabi “ekta”, sef undod. Mae diodydd Nekta wedi’u creu gan ddau frawd o Brydeinwyr Pwnjabi oedd am hybu byw heb alcohol a heb gywilydd. Mae rhywfaint o’r elw o bob can o Nekta yn mynd at waith No More Pretending, sefydliad sy’n cefnogi gwellhad yn y gymuned Pwnjabi.
Fel dwedodd un o’n panel profi, gyda cacoa a chai yn brif gynhwysion, efallai byddai rhywun yn disgwyl diod laethog, drwm, ond mae hon yn ysgafnach o dipyn na hynny.
Cyn gynted ag y byddwch chi’n agor y can, mae’r aroglau tyrmerig a chamomil yn drawiadol. Mae hyn yn parhau yn y blas, lle mae naws flodeuog y camomil a chynhesrwydd y tyrmerig yn rhoi’r cydbwysedd perffaith, gan gynnig rhywbeth pur wahanol i ddiodydd byrlymus melys arferol. At ei gilydd, dyma ddiod adfywiol ond cynnil.
Fel pob un o ddiodydd Nekta, mae’n dod mewn can cofiadwy sy’n cydweddu i’r dim i’r ddiod tu fewn.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.