New London Light Aegean Sky

English | Cymraeg

Ein barn ar New London Light Aegean Sky.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 45

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Tasha Kerr-Dineen, sydd i’w gael ar Instagram fel Tasha KD.

Crëwyd y ddiod yma gan Gwmni Distyllu Salcombe ar arfordir deheuol Dyfnaint. Aethon nhw ati yn 2020 i droi eu harbenigedd ar greu diodydd alcoholaidd at ddyfeisio diodydd di-alcohol arloesol.

Mae’r ddiod yma’n cael ei distyllu gan ddefnyddio dwsin o flasau naturiol, er mwyn creu blas sy’n dwyn i gof perllannau olewydd a choed lemwn glannau Môr y Canoldir. Mae ganddi wrid rhosliw gwelw ac arogl neilltuol o orenau coch. Wrth cymryd cegaid, mae’r blas yn eich taro’n syth gyda blasau sitrws chwerw a ffres a nodau blodeuog mwy cynnil, sy’n cael eu cydbwyso gan is-flasau mwy sawrus a phriddlyd, gan gynnwys rhosmari ac olifau. Mae’r adflas unigryw chwerw a phrennaidd braidd yn rhoi naws soffistigedig iddi, gan eu gwahaniaethu oddi wrth lawer o ddiodydd di-alcohol eraill. Dyma’r ddiod berffaith ar gyfer noswaith boeth o haf.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​