No. 1 Living Kombucha gyda Sinsir a Thyrmerig

English | Cymraeg

Ein barn ar No. 1 Living Kombucha gyda Sinsir a Thyrmerig

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5% neu lai
Calorïau: 36 (13 per 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Dyma adolygiad gwadd gan Reolwr Swyddfa Alcohol Change UK, Jenni Bradshaw.

Llawn bywyd! O leiaf dyna slogan No.1 Living, a sefydlwyd yn 2018 gan Johnny Wilkinson, arwr rygbi Lloegr. Mae pob un o’u cynnyrch yn ddi-laeth, di-glwten, a figanaidd, ac yn llawn bacteria byw sydd i fod yn llesol i’r perfeddion.

Dechreuodd Johnny fragu kombucha gyda’i wraig, oedd yn astudio i fod yn faethegydd. Roedd e eisiau rhannu ag eraill ei awydd newydd i fwyta ac yfed yn iach, ac felly fe sefydlodd No.1 Living.

Gallwch chi brynu’r kombucha yma mewn can neu botel, sydd ill dau yn hawdd eu hailgylchu. Wrth gael ei dywallt, mae’n rhyddhau arogl ysgafn ac mae iddo liw melyn lled dryloyw yn y gwydryn. Mae mymryn bach o swigod sy’n bywiogi’r ddiod. Mae yma hefyd bupur du tanllyd sy’n cyd-fynd yn dda gyda’r sinsir, gan greu blas mwy cymhleth.

Fel pob kombucha, gallwch chi fwynhau hwn gydag unrhyw bryd bwyd i buro’r geg ar ddechrau’r pryd neu i’w lymeitian wrth fwyta. Oherwydd y sinsir, efallai ei fod yn arbennig o addas i’w baru gyda bwydydd Dwyrain Asia.

Mae’r gwneuthurwyr yn awgrymu peidio â’i rhoi i blant bach, a pheidio â’i hyfed os ydych chi’n feichiog neu’n bwydo o’r fron.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​