No. 1 Living Raspberry Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Living Raspberry Kombucha

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 8 (3 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae diodydd kombucha No. 1 Living wedi’u creu gan gyn-seren rygbi Lloegr Johnny Wilkinson er mwyn cynnig dewis iachach yn lle diodydd ysgafn siwgraidd. Mae hon wedi’i chreu gyda mafon a mymryn o bomgranad.

Mae gan y can liw pinc dros ben sy’n sicr o’i wneud yn amlwg ar y silffoedd. Wedi’i thywallt – gorau oll wedi’i hoeri’n dda – mae gan y ddiod arogl mafon cryf a melys. Mae’r lliw’n debyg i win rhosliw pefriog. Mae mymryn o swigod ond dim gormod. Er nad oes siwgr yn y rysáit, diod felys yw hon. Bydd yn berffaith i chi os oes gennych chi ddant melys, ond efallai na fydd y sawl sy’n disgwyl surni traddodiadol kombucha yn mwynhau gymaint.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​