Not Guilty Red Blend

English | Cymraeg

Ein barn ar Not Guilty Red Blendn

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 29

Mae gwin coch di-alcohol yn andros o anodd ei wneud yn dda. Cymysgedd o fwy nag un math o rawnwin coch yw’r gwin Awstraliaidd hwn, gydag arogl a blas mwyar duon da. Mae’n ddiod ffres a heb fod yn rhy felys, ac mae gan yr adflas ddigon o’r tannin sy’n rhoi i win coch y sychder neu surni sy’n gwneud i chi grychu eich ceg ryw fymryn wrth ei yfed.

Mae’n dod mewn potel giwt gyda llun o lwynog sydd newydd ei ddal am ryw drosedd neu’i gilydd (rydyn ni’n cymryd ei fod e’n “ddi-euog”). Dyma ddiod a allai fod i’r dim os ydych chi’n chwilio am rywbeth i gyd-fynd â chinio rhost neu fwydydd bras eraill.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​