Noughty Syrah

English | Cymraeg

Ein barn ar Noughty Syrah

Sgôr:

3/5

Llai na 0.5%

Calorïau ymhob gwydraid 250ml: 35


Cafodd Thomson & Scott llwyddiant mawr â’u gwin gwyn pefriog organig gyda chryfder o gwta 0.5%. Bellach, maen nhw wedi lansio gwin coch prin-ei-alcohol, sef un o’r diodydd anoddaf ei gwneud yn dda.

Gwnaethpwyd y gwin yma yn Ne Affrica. Cafodd ei eplesu i’r cryfder arferol cyn cael ei ddad-alcoholeiddio. Mae ganddo arogl mwyar duon braf, ac mae cydbwysedd da rhwng chwerwder a melystra. Ond mae teimlad tenau braidd iddo ac mae mymryn o adflas sur sy’n aros. Ar cyd â bwydydd cryf, mae’n gweithio’n weddol; ar ei ben ei hun, mae’n baglu rywfaint.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​