Nozeco Merlot

English | Cymraeg

Ein barn ar Nozeco Merlot.

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 24

Mae Nozeco yn adnabyddus am eu gwinoedd gwyn a rhosliw pefriog. Felly, pan welsom ni’r gwin coch yma ym Morrisons in 2025, roeddem ni am wybod mwy.

Mae ganddo liw coch dwfn hardd ac mae’n dod mewn potel glir sy’n dangos y lliw yna’n dda. Mae golwg ddeniadol arno yn y gwydryn ac arogl apelgar.

Ond nid gwin yn unig sydd yn y botel. Gwin heb yr alcohol ond gyda digion o beraroglau eraill yw hwn. Yn nyddiau cynnar gwinoedd di-alcohol, peth cyffredin oedd ychwanegu perlysiau a sbeisiau. Daeth yn llai cyffredin wrth i ddulliau dad-alcoholeiddio wella. Un o’i anfanteision yw fod y cynhwysion botanegol yn llethu blas y grawnwin braidd, a dyna sydd wedi digwydd yn fan hyn, yn ein barn ni.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​