Oddbird Spumante

English | Cymraeg

Ein barn ar Oddbird Spumante

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 27

Dyma adolygiad gan ei hawdur gwadd Laurie Pearce, sydd i’w chael ar Instagram fel The Sober Shift.

Mae Oddbird Spumante wedi’i greu o win sydd wedi aeddfedu am hyd at ddeuddeg mis mewn casgenni dur gloyw. Wedyn mae’r alcohol sydd ynddo yn cael ei “ryddhau’n ofalus gan ddefnyddio dull unigryw” sydd i fod i gadw holl flasau ac aroglau naturiol y gwin. Mae’r disgrifiad yn addo blasau gellyg gwyn, afalau gwyrdd, blodau’r ysgaw, melon, gwsberis, a grawnffrwyth.

Roeddwn i wrth fy modd efo’r gwin yma. Mae ganddo’r holl flasau a ddylai fod gan win pefriog da. Wedi’i oeri, mae’n hyfryd o sych a ffres, yn wahanol i ambell ddiod arall yn yr un categori, sydd yn aml yn rhy felys o dipyn! Rhannais i fe gyda ffrind sy’n sobr ers tro ac roedden ni ein dau’n gytûn mai hwn yw’r gwin pefriog di-alcohol gorau i ni ei gael.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​