ON Beer

English | Cymraeg

Cwrw byddech chi’n falch o’i gynnig i bawb

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob potelaid: 40

Dyma adolygiad gan un o’n Lleisiau Lleol, Nicola

Mae gan ON Beer restr ryfeddol o gynhwysion – hirach nag sydd gan yr un cwrw di-alcohol arall welais i erioed. Mae’r perlysiau sy’n mynd i mewn iddo yn cynnwys jinseng, gwarana, damiana, rhodiola, licris, a rhagor. Rhaid i mi chwilio’r we i gael gwybod beth oedd rhai o’r rheini!

Mae ON yn honni cynnig “profiad di-alcohol aruchel”, ac maen nhw yn llygad eu lle. Dyma’r cwrw dirwestol gorau flasais i hyd yn hyn – ac dwi wedi rhoi cynnig ar lawer ohonyn nhw!

Fel llawer cwrw di-alcohol, mae hwn yn fywiog tu hwnt wrth ei agor. Ei agor e dros y sinc yw fy nghyngor i i chi! Ar ôl ei dywallt, mae’r arogl yn ysgafn – gyda sitrws a blodau’r ysgaw. Roeddwn i’n poeni dipyn byddai’n rhy flodeuog, neu byddai’r licris yn llethu’r blasau eraill, ond roeddwn i’n methu gweld bai ar y “symffoni o hopys” llyfn, braf sy’n aros yn y genau. Mae ON Beer yn llawn hopys ond eto’n anhygoel o ysgafn ac yn eithaf gwahanol i’r hyn roeddwn i’n ei ddisgwyl mewn “cwrw gwelw swmpus”.

Mae cyrfau fel hwn yn ein perswadio ni i beidio â bodloni ar fersiynau di-alcohol o’r brandiau mawr diflas sy’n llenwi’r farchnad ddiodydd. Mae e’n ffres a gwahanol. Byddwn i’n falch o ychwanegu hwn at fy nghasgliad cyrfau ac o’i gynnig i bawb.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​